C(5)032 – Gorchymyn Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 6, Arbedion a Darpariaethau Trosiannol) 2019
Cefndir a Diben
Hwn yw’r chweched Gorchymyn Cychwyn a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”). Mae erthygl 2 a’r Atodlen yn dwyn i rym ddarpariaethau yn y Ddeddf sy’n ymwneud â rheoleiddio darparwyr gwasanaethau gofal cymdeithasol penodol.
Mae adran 6 o’r Ddeddf yn cael ei dwyn i rym ar 29 Ebrill 2019 er mwyn caniatáu i geisiadau i gofrestru gael eu gwneud mewn cysylltiad â gwasanaeth mabwysiadu, gwasanaeth maethu, gwasanaeth lleoli oedolion neu wasanaeth eirioli. 29 Ebrill 2019 yw’r dyddiad dod i rym ar gyfer y darpariaethau yn Rhan 1 fel y maent yn gymwys i bersonau sy’n darparu gwasanaeth mabwysiadu, gwasanaeth maethu, gwasanaeth lleoli oedolion neu wasanaeth eirioli. Mae erthygl 2 hefyd yn cychwyn diwygiadau canlyniadol perthnasol yn Rhan 1 o Atodlen 3 i’r Ddeddf.
Mae erthyglau 3 i 13 yn gwneud arbedion a darpariaethau trosiannol er mwyn ymdrin â’r cyfnodau y mae rhaid i berson sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (“Deddf 2000”) wneud cais i Weinidogion Cymru i gofrestru ynddynt a’r cyfnodau y bydd yn esempt rhag y gofyniad i fod wedi ei gofrestru o dan y Ddeddf ac yn parhau i gael ei reoleiddio o dan Ran 2 o Ddeddf 2000 ynddynt.
Gweithdrefn
Gwneir y Gorchymyn Cychwyn hwn o dan adrannau 188(1) a (3) o'r Ddeddf. Yn unol â'r drefn arferol ar gyfer gorchmynion cychwyn, nid yw adran 188 yn ei gwneud yn ofynnol i'r gorchymyn fod yn ddarostyngedig i'r weithdrefn negyddol na'r weithdrefn gadarnhaol yn y Cynulliad Cenedlaethol. Mae hyn oherwydd y bydd y gyfraith bresennol a'r hyn a fydd yn ei disodli wedi bod yn destun i'r gwaith craffu llawn a roddir i ddeddfwriaeth sylfaenol. Nid oes angen gosod Gorchmynion Cychwyn gerbron y Cynulliad, ond cânt eu cyhoeddi bob amser ar y wefan www.legislation.gov.uk.
Yn yr achos hwn, roedd adran 186(1) o'r Ddeddf yn cynnwys pŵer eang[1] i wneud darpariaeth drosiannol ac arbed (ymhlith pethau eraill) a fyddai wedi bod yn destun y weithdrefn negyddol neu'r weithdrefn gadarnhaol, yn dibynnu a oedd yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol ai peidio.
Gwaith craffu o dan Reol Sefydlog 21.7
Nodir y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.7 mewn perthynas â'r Gorchymyn hwn.
Nodir y darpariaethau cychwyn yn erthygl 2 a'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn. Mae erthyglau 3-12 yn cynnwys darpariaethau trosiannol ac arbed manwl. Felly tynnir sylw'r Pwyllgor at y Gorchymyn hwn oherwydd ei fod yn dangos maint y darpariaethau hynny a allai fod yn angenrheidiol wrth newid o un fframwaith deddfwriaethol i un arall. Yna gall y Pwyllgor ystyried a yw'n briodol cynnwys darpariaethau o'r fath mewn offeryn statudol nad yw'n destun craffu gan y Cynulliad yn gyffredinol ac a ddylid cynnwys pwerau o'r fath yn Neddfau'r Cynulliad yn y dyfodol.
Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd
Nid oes goblygiadau i'r Gorchymyn hwn yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Ymateb y Llywodraeth
Mae angen ymateb gan y Llywodraeth.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Ebrill 2019
[1] Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud unrhyw ddarpariaeth ganlyniadol, gysylltiedig, drosiannol, ddarfodol neu arbed sy’n briodol yn eu barn hwy at ddibenion y Ddeddf hon neu mewn cysylltiad â hi.